Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 3 Gorffennaf 2023
Amser:
13.30 -
14.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13400
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Anfonodd Huw Irranca-Davies ei ymddiheuriadau. Yn unol â’r cynnig a dderbyniwyd yn y cyfarfod blaenorol, Alun Davies oedd y Cadeirydd dros dro.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)365 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
2.2 SL(6)363 - Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
3.1 SL(6)364 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau, Gwrthwynebiadau ac Ymchwiliadau) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
4.2 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Lleol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.
4.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
4.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Manwerthu: Iechyd y Cyhoedd, Safonau Cynnyrch Marchnata ac Organig a Darpariaethau Amrywiol) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Weinidog yr Economi: Craffu ar waith y Gweinidog
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Gweinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.3 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diweddaru deddfwriaeth Cymru
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol.
5.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Gweinidog Gwladol dros Dai a Chynllunio: y Bil Rhentwyr (Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Gweinidog Gwladol dros Dai a Chynllunio.
5.6 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd: Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Llywydd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) ar y Bil Caffael
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) ar y Bil Caffael a chytunodd ar ei adroddiad drafft.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni a’r llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i'w gwahodd i fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 10 Gorffennaf i drafod materion ymhellach.
Made Negative Resolution Instruments
Made Negative Resolution Instruments
Affirmative Resolution Instruments